Psalms 141

Gweddi am help

Salm Dafydd.

1Arglwydd, dw i'n galw arnat: Brysia! Helpa fi!
Gwranda arna i'n galw arnat ti.
2Derbyn fy ngweddi fel offrwm o arogldarth,
a'm dwylo sydd wedi eu codi fel aberth yr hwyr.
3O Arglwydd, gwarchod fy ngheg
a gwylia ddrws fy ngwefusau.
4Paid gadael i mi feddwl dweud dim byd drwg,
na gwneud dim gyda dynion sydd felly!
Cadw fi rhag bwyta eu danteithion.
5Boed i rywun sy'n byw'n gywir ddod i'm taro i,
a'm ceryddu mewn cariad!
Dyna'r olew gorau – boed i'm pen beidio ei wrthod.
Dw i'n gweddïo o hyd ac o hyd yn erbyn eu drygioni.
6Pan fyddan nhw'n syrthio i ddwylo'r Graig, eu Barnwr,
byddan nhw'n gwerthfawrogi beth ddywedais i.
7Fel petai rhywun yn aredig ac yn troi y pridd,
mae ein hesgyrn wedi eu gwasgaru wrth geg Annwn
141:7 Annwn Hebraeg,  Sheol, sef “y byd tanddaearol ble mae'r meirw yn mynd”
.
8Arnat ti dw i'n edrych, O Arglwydd, fy Meistr;
Dw i'n dod atat am loches, paid a'm gadael mewn perygl!
9Cadw fi i ffwrdd o'r trapiau maen nhw wedi eu gosod,
ac oddi wrth faglau y rhai drwg.
10Gad iddyn nhw syrthio i'w rhwydi eu hunain,
tra dw i'n llwyddo i ddianc.
Copyright information for CYM